Yr Arddangosfa

Study For A Portrait 4 Splash

Yr Arddangosfa

Music for the gift

Mae James Richards yn ymddiddori ym mhosibilrwydd y wedd bersonol oddi mewn i anhrefn y cyfryngau torfol dyddiol.

Mae ei waith yn gwneud defnydd o fanc cynyddol o ddeunydd fideo sy'n cynnwys darnau o sinema, gweithiau gan artistiaid eraill, deunydd 'camcorder', sioeau teledu hwyr-y-nos a deunydd archif. Mae ffyrdd o gynhyrchu ac arddangos delweddau yn ganolog i fethodoleg Richards ac mae e'n dadbacio'r ddelwedd fel gwrthrych ac fel goddrych, gan ddatblygu dulliau sy'n caniatáu i ffragmentau o'r presennol ymgysylltu â'r gorffennol, i'r cudd ymwneud â'r gweladwy, ac i'r hyn sy'n deimladol ddod i gysylltiad â'r hyn sy'n gorfforol.

Mae cyflwyniad Richards yn cynnwys Migratory motor complex (2017), gosodwaith electro-acwstig chwe sianel sy'n archwilio gallu sain i rendro mannau artiffisial ac i leoli'r digwyddiadau sonig a melodaidd sy'n digwydd ynddynt. Mae motiffau lleisiol a cherddorol yn plethu drwy'r darn ac fe gafodd y rhain eu datblygu ar y cyd â Kirsten Evans a Samuel Williams, myfyrwyr yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Cafodd y gwaith ei diwnio in situ ac fe aeth Richards ati i ymateb i gyfyngiadau'r safle a chreu profiad sinematig ac aml-synhwyraidd ar sail hynny - trefniant o ysgogiadau emosiynol byw y gellir symud yn oddrychol trwyddynt.

Mae What weakens the flesh is the flesh itself (2017) yn fideo a wnaed ar y cyd â Steve Reinke. Man cychwyn y gwaith yw cyfres o ddelweddau sydd i'w gweld yn archif preifat Albrecht Becker - dylunydd cynhyrchu, ffotograffydd ac actor a garcharwyd gan y Natsïaid am fod yn hoyw. Ymysg y lluniau o'i ffrindiau a ffotograffau a dynnwyd wrth iddo wasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd, mae yna gasgliad o hunanbortreadau bwriadus sy'n datgelu ymrwymiad obsesiynol Becker i weddnewid ei gorff, tatŵio a'i ddelwedd ei hun: cafodd y delweddau hyn eu dyblygu, dro ar ôl tro, a'u hailweithio drwy gyfrwng collage a golygiadau yn yr ystafell dywyll.

Mae'r casgliad rhyfeddol hwn o ddelweddau yn asgwrn cefn i'r fideo, sydd yn fyfyrdod estynedig ar yr archif, ffotograffiaeth fel cyfrwng a'r corff ei hun. Caiff yr hunanbortread dwbl ei ddyblu, dro ar ôl tro - fel mise en abyme, a'r hunan yn cael ei golli wrth i'r cnawd ffoi rhag marwolaeth a dychwelyd ar ffurf delwedd fain sy'n atseinio â dyhead a theimlad o bosibilrwydd.  

Mae Rushes Minotaur (2017) yn osodwaith o brintiau inkjet sy'n tynnu ar ddwy ddelwedd wahanol: delwedd agos o groen llyfr meddygol sy'n dirywio, a ffasâd siop dan gysgod tarpolin. Wedi'u torri at ei gilydd ac yna'u sganio, caiff y cliwiau gweledol hyn eu cuddio ac yna'u hadfer drwy broses o sganio sy'n estyn eu hystyron ac yn eu huno mewn gwahanol gyfuniadau.

Mae cyhoeddiad, i gyd-fynd â'r arddangosfa, yn cynnwys ysgrif gan yr awdur Chris McCormack. Mae'r naratif yn symud rhwng y personol a'r gwyddonol ac yn ystyried y modd y mae'r llais gwrywaidd yn torri. Wrth bendilio rhwng y person cyntaf a'r trydydd, mae'r testun yn ymwneud ar letraws ag arddangosfa Richards, wrth i'w ddelweddau yntau bendilio rhwng dogfennaeth bur a thiriogaeth fwy niwrotig. 

Newyddion o Fenis

Jr Radio At Night Still 2

UK Tour

Latest Blog Posts

25.11.2017 / Efflorescence / Subflorescence

Salt is rotting the walls, eating the bricks, leaving a dusty residue on the terazzo and marble. 

The foundations of Venetian buildings are immersed in sea water, causing a permanent capillary rise. Sea water is being constantly drunk by the buildings. The sulphate from the water attacks and cracks the mortar, the sodium chloride crystallises within stoney surfaces, causing a crunchy coating as soon as the water evaporates. The only way to prevent this is to completely stop the capillary rise, done so using a chemical or mechanical barrier.

I can't help but compare the salt coated walls to a skin condition, a psoriasis or an eczema, a deterioration, a flaking of the surface. The building's with poison running through their capillaries and clinging onto their skin. Or maybe 'Rushes Minotaur' has had too much of an effect...

14.11.2017 / Remember your present


After the night's storm
and in the clear and present light,
the marbled floor shines.

12.11.2017 / What its all about...

Elderly Belgian couple listen to the entire sound piece and watch the whole film. It reminds them of their time during WW2. 

They recount how they were forced to relocate from Belgium to the UK to avoid the Nazis. It's how they first met. 

They thanked us for such a powerful exhibition and the memories it evoked.

10.11.2017 / The Art Olympics

Before I left:

"What are you going to do in Venice for a month?".                                    A common question from friends, family,                                                                                                                                                              and colleagues not accustomed to the                                                                                                                                                                      'funny world of the art world'.

"I'm working at the Venice Biennale".                                                               Followed by a detailed and                                                                                                                                                                                           comprehensive description of the event.

                                                                                                                                                            A confused look or a too eager nodding                                                                                                                                                                 of the head usually follows.

After repeating this conversation a few times, I settled on a fool-proof response.

"I'm working at the Venice Biennale. It's like the Art Olympics".          No detailed and comprehensive                                                                                                                                                                                  explanation needed. It is understood. 


I wondered why this was so that an art festival with a similar length of history as the modern Olympic games (the first Biennale was held in 1895 and the first modern Olympics was held in 1896) in its own right is needs so much explanation. Yet when compared or referred to as the Art Olympics, its understood.

I wondered if this was because of the level of funding and media interest in the Olympics that the Biennale does not have, which leads to a wide-spread knowledge of the event in the public consciousness. 


After arriving

Once arriving here, I realised there was more to this 'Art Olympics' that I previously thought.

The weight of history and the politics that plays out at the Olympic Games plays out here, with national pavilions jockeying for position and prominence.

Also, there is a multitude of conversations based solely on the pavilions and not the artists. 

"What did you think of Germany? or Ireland?" or "Have you seen Finland yet and don't you think it's weird that they are also in the Scandinavian Pavilion?' and "I wonder what the Catalan show thinks of the Spanish Pavilion?"

I now wonder when the Biennale will be introducing an opening ceremony, the Biennale Torch, flag parade, national anthems, and international boycotts.